| Buyer | Cyngor Sir Ddinbych / Denbighshire County Council |
|---|---|
| Value | £144k |
| Deadline | Wednesday 4 November at 12 noon |
| Where | Wales |
| Notice | FIND A TENDER · 094515-2026 · UK4 |
| Published | 7 Oct 2026 |
| Status | Open |
As published
Ar gyfer unigolyn, neu unigolion, neu sefydliad â phrofiad addas a staff sydd â chymhwyster / cymwysterau proffesiynol perthnasol ("yr Ymgynghorydd" / "yr Ymgynghorwyr" / "yr Ymgynghoriaeth") i ymgymryd ag adolygiad o Wasanaethau Plant yng Ngogledd Cymru. Yng Nghymru, nodwyd effaith pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc fel blaenoriaeth gan y Comisiynydd Plant yn ei adroddiad 'Coronafeirws a Fi' ac fel rhan o Gynlluniau Ail-greu ar ôl COVID-19 gan Lywodraeth Cymru. Mae iechyd meddwl yn faes eang, ond mae pwysigrwydd cefnogaeth effeithiol ar gyfer argyfwng iechyd meddwl i blant a phobl ifanc wedi cael ei amlinellu yn 'Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles 2025 i 2035', ac 'Atal hunanladdiad a hunan-niweidio: strategaeth a chynllun cyflawni' i Gymru. Yn y 6 Awdurdod Lleol a'r Bwrdd Iechyd (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) yng Ngogledd Cymru, gwelwyd cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau, ond hefyd yn eu cymhlethdod oherwydd y trawma mae plant a phobl ifanc wedi'i gael. Yn 2024, amlygodd adroddiad ar y cyd gan y cyrff Arolygu Iechyd, Gofal ac Addysg bod angen gwelliannau mewn cefnogaeth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc. For an individual, or individuals, or organisat...
Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. Bidlark is independent: it isn't a government service.